Cofrestru llyw.cymru neu gov.wales

Download as PDFDownload as PDF
 

Cliciwch yma i wneud cais yn Saesneg. To apply in English please click here.

Cyflwyno ceisiadau:

Dylech fodloni eich hun fod eich cais yn bodloni'r polisi ar gyfer cofrestru a chynnal parthau ar .llyw.cymru a .gov.wales sydd ar gael yn https://llyw.cymru/cofrestru-rheoli-parthau-ar-llywcymru-govwales.

Rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus sy'n ceisio enw parth a'u Cofrestrwyr sicrhau eu bod wedi cael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru cyn defnyddio enw parth. Ni fydd Jisc na'r Pwyllgor yn gyfrifol am unrhyw gostau yr eir iddynt am fethu â dilyn y broses hon.

Rhaid i bob cais gael ei wneud gan Gofrestrydd a Gymeradwywyd oni bai bod y cais am enw parth yn cael ei gyflwyno gan sefydliad sydd eisoes yn gysylltiedig â rhwydwaith Jisc.

Noder: Rhaid i bob cais am enw parth newydd gynnwys gwybodaeth ddisgrifiadol am sut mae'r enw parth a'r sefydliad sy'n ceisio ei ddefnyddio yn bodloni'r meini prawf cymhwyso. Bydd hyn yn gwneud y broses o gaffael enw parth newydd yn llawer cyflymach.

  1. Os bydd y sefydliad sy'n ceisio enw parth newydd yn bodloni'r meini prawf cymhwyso, yna gall Cofrestrydd a Gymeradwywyd gyflwyno cais drwy'r ffurflen ar-lein.
     
  2. Mae dau ganlyniad posibl i unrhyw gais am enw a gyflwynir:
    Derbyn. Bydd hyn yn golygu nad oes gwrthwynebiad i'r enw gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru a chaiff cydnabyddiaeth gadarnhaol ei dychwelyd i'r ISP sy'n cyflwyno'r cais.
    Gwrthod. Bydd hyn yn golygu nad yw'r enw parth yn dderbyniol gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru. Gall y rheswm am hyn gynnwys un neu fwy o'r canlynol:
    • darparwyd wybodaeth annigonol;
    • nid yw'r cais yn bodloni meini prawf cymhwyso'r parth;
    • nid yw'r ffurflen mewn testun plaen;
    • ceisiadau gwamal neu sy'n gwastraffu amser.

Fel arfer ni chodir tâl am gais a wrthodwyd. Fodd bynnag, cadwa Jisc yr hawl i godi tâl am geisiadau gwamal, ceisiadau sy'n gwastraffu amser, neu geisiadau eraill sy'n golygu defnyddio adnoddau yn ddiangen i ddelio â hwy.
 

  1. Y nod yw ymateb i geisiadau o fewn 14 diwrnod gwaith i'r dyddiad y bydd Jisc yn cael y ffurflen. Caiff pob cais am enwau parth newydd ei gydnabod a phennir rhif cyfeirnod tocyn pan gaiff ei ychwanegu at ein System. O fewn tua 14 diwrnod gwaith, caiff neges ei hanfon at y Cofrestrydd yn nodi a gafodd yr enw parth ei Dderbyn neu ei Wrthod gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru.
     
  2. Unwaith y caiff taliad ei wneud, yn achos Cwsmeriaid Jisc, neu y codir tâl ar gyfrif y Cofrestrydd, caiff enwau parth a Dderbyniwyd eu cyflwyno i'w ddirprwyo yn y System Enwi Parthau. Rhaid ffurfweddu gweinyddion enwau dynodedig yn gywir er mwyn iddynt gymryd yr enw newydd, yn ddelfrydol pan weithredir y ffurflen sy'n ceisio enw parth newydd. Ni fydd methu â ffurfweddu'r gweinyddion enwau dynodedig yn gywir yn rhwystro dirprwyo yn y System Enwi Parthau o safbwynt Jisc.
     
  3. Yn achos Gwrthod cais, bydd unrhyw gais am enw parth dilynol ar gyfer yr un defnyddiwr terfynol yn cael ei drin fel cais newydd. Felly dylid caniatáu 14 diwrnod gwaith arall ar gyfer ymateb gan y Pwyllgor. Dylid cwblhau ffurflen newydd a'i chyflwyno i'r rhestr bostio briodol, gan gynnwys unrhyw fanylion wedi'u cywiro neu wybodaeth ychwanegol, yn ôl yr angen, er mwyn i'r Pwyllgor ei hadolygu.
     
  4. Mae pob cofrestriad yn para am gyfnod o ddwy flynedd, o'r dyddiad y cafodd yr enw parth ei dderbyn gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru. O'r dyddiad hwn bydd y Cofrestrydd a Gymeradwywyd yn cael ei anfonebu am gost cynnal yr enw parth.