Taliadau a ffioedd

Download as PDFDownload as PDF

Taliadau a ffioedd

Rhaid i bob sefydliad sy'n cyflwyno cais naill ai am enw parth newydd, neu addasiad, ym mharthau .llyw.cymru neu .gov.wales feddu ar Gyfrif Aelodaeth Cofrestrydd a Gymeradwywyd gyda Jisc oni bai eu bod yn gysylltiedig â rhwydwaith Jisc. Ni chodir tâl ar sefydliadau sydd â Chyfrif Aelodaeth Cofrestrydd a Gymeradwywyd. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae'r cyfleuster hwn ond ar gael i sefydliadau sy'n rhagweld y byddant yn cyflwyno nifer o geisiadau am enwau parth drwy Jisc.

Cwsmeriaid Jisc

Ffïoedd Geisiadau am Enw Newydd

Caiff cwsmeriaid Jisc gofrestru eu henw parth cyntaf ym mharthau .llyw.cymru neu .gov.wales am ddim. Os bydd angen unrhyw enw parth ychwanegol, bydd y tâl safonol o £100 ynghyd â TAW (ar y gyfradd gyfredol) yn gymwys. Fodd bynnag, ni chodir tâl am unrhyw waith cynnal parhaus, cyn belled â'u bod yn parhau'n gysylltiedig â Rhwydwaith Jisc. Os bydd angen enwau parth ychwanegol o dan unrhyw barth .llyw.cymru neu .gov.wales arall, yna'r tâl a godir yw £100 ynghyd â TAW (ar y gyfradd gyfredol) y flwyddyn. Ni fydd Jisc yn cofrestru enw parth a weinyddir y tu allan i'r DU.

Ffïoedd am Gynnal/Addasu

Ni chodir tâl ar gwsmeriaid Jisc am gynnal eu cofrestriadau .llyw.cymru neu .gov.wales yn y System Enwi Parthau, cyn belled â'u bod yn parhau'n gysylltiedig â Rhwydwaith Jisc. Ni chodir tâl arnynt chwaith am unrhyw addasiadau i'w cofnodion Systemau Enwi Parthau, cyn belled â bod y newidiadau yn cadw'r enw parth o fewn Rhwydwaith Jisc.

Cofrestriadau Masnachol

Ffïoedd a godir am Geisiadau am Enw Newydd:

Y tâl a godir am greu enw parth newydd yw £100 ynghŷd â TAW (ar y gyfradd gyfredol). Mae hyn yn cynnwys y tâl a godir am waith cynnal yn y ddwy flynedd gyntaf, sy'n cynnwys pob newid rhesymol i ddirprwyo'r parth (zone) sy'n gysylltiedig â'r enw. Yna bydd tâl o £50 ynghŷd â TAW (ar y gyfradd gyfredol) am waith cynnal yn dod i rym ddwy flynedd i'r dyddiad y cafodd yr enw ei dderbyn gyntaf gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru, a bob dwy flynedd ar ôl hynny. Bydd y Cofrestrydd sydd â'r enw parth ar ei weinyddion enwau yn cael ei anfonebu ar yr adeg honno. Mae felly'n ofyniad bod y templed ar gyfer ceisiadau enwau newydd yn dod o'r Cofrestrydd a Gymeradwywyd sydd newydd ei ddynodi, gan mai ef fydd y Cofrestrydd a fydd yn cael ei anfonebu am y tâl a godir am waith cynnal ar ôl dwy flynedd.

Ffïoedd am Gynnal/Addasu

Gweler addasu cofnodion System Enwi Parthau

Diffyg taliadau:

Os bydd Cofrestrydd yn methu â thalu anfoneb o fewn dau fis cadwa Jisc yr hawl i ddileu'r cofnodion System Enwi Parthau ar gyfer ei gwsmeriaid lle na chafwyd taliad. Yn sgil hyn, bydd cwsmeriaid y Cofrestrydd yn colli eu cofnod System Enwi Parthau ac felly byddant yn colli eu mynediad at eu e-bost a'u gwefan drwy'r cyfeiriad dan sylw.